Chwedl y gwadwr ‘boho’
Wnawn ni ddim dweud y drefn wrth y plantos,
am eu blerwch ysgafala wrth chwarae.
Mae’n ddiflas iddynt orfod gwrando,
arnom ni’n pregethu – am barchu,
a thrysori, a gofalu. Peidiwch â mwydro’u
pennau nhw nawr, hefo ymwybyddiaeth
o’u plentyndod breintiedig, na’i dwrdio nhw
chwaith am rwygo eu llyfrau, wrth ei dethol
nhw’n ddiofal braf – ac yna’n addurno’u
thudalennau â chelf ysbrydoledig,
gan gyfoethogi ac ymestyn eu medrau.
Gadewch iddynt liwio’u teganau di-ri –
efallai ei bod nhw dychmygu ei bod nhw’n
perchnogion salon o fri – a cholur yw’r ffeltiau
a chreonau, maent yn sgriblan ar eu hwynebau.
A pheidiwch â sbwylio eu hwyl nhw chwaith,
na mygu eu creadigrwydd celfyddydol,
trwy eu hatgoffa nhw fod ffeltiau’n sychu,
os na roddwch y caeadau plastig yn ôl;
Oes ots os maent yn colli caeadau, ambell i ffelt
neu feiro? Ni gyd yn ei cholli nhw weithiau,
wrth fwhwman o ddydd o ddydd yn ‘boho’.
Mae bywyd i’w fyw, yn y fan a’r lle -
cyfleoedd cyffroes i’w archwilio,
cyn i eu plentyndod nhw orfod cilio.
Ond beth am deganau ddoe,
sy’n syllu’n drist y nawr o gornel y stafell?
Fedrwch ei golchi efallai, ond maent wedi
ei niweidio a’i difetha – a byddent byth
yr un fath eto, sy’n drosiad da am eiddo’r
dyfodol, a phobol, a’r blaned hon
ni gyd wrthi’n ei rhannu.
Mae’r llyfrau wedi ei rhwygo, a’i lliwio,
y nawr yn cael ei lluchio –
does dim modd ei ddarllen, a’i fwynhau
byth eto. A fwy o goed yn cael ei rhwygo
o’r ddaear i greu fwy o lyfrau
i adnewyddu’r silff lyfrau unwaith eto.
Heb ddysgu’r gwersi yma daw’r plantos
yn oedolion aflêr, slebogaidd, anwybodus;
ni fyddent yn sylweddoli y niwed gallent
eu gwneud – hefo geiriau, na gwastraff,
nac arlwyau. Mae rhai yn colli sbectol,
menig, sgarffiau ac ymbarelau –
ond mae hynna yn oce -
digon hawdd i’w adnewyddu’n rhad,
yn ein cymdeithas ‘throw-away’.
Mae’r amgylchfyd yn llawn o’r hyn a gollwyd
a’i lluchiwyd – ac mae’r tomennydd sbwriel
yn tyfu, gan lyncu’n gwagleoedd o wyrddni,
ac yn gwenwyno’r tir o’i hamgylch.
Mae’r moroedd yn llawn poteli,
rhwydi, a gwellt yfed streipïog,
sy’n cymryd blynyddoedd i ddirywio
hyd yn oed ychydig; ac mae’r wylan yn ei bwydo
i’r cywion yn ddiniwed, heb syniad o’r niwed
a wnaed. Ac mae gronynnau plastig wedi
treiddio’r rhewfryniau, ac yn llifo,
yn ôl ac ymlaen, yn y moroedd llygredig,
gwenwynllyd. Mae’r byd yn llawn o gaeadau
ysgrifbin coll – a dyna’r broblem sydd gennym;
mae angen meithrin agweddau mwy cyfrifol,
ymysg genhedlaeth y dyfodol.