Dwy ganrif o Fyddarclywedtopia a fu
Bu yna ynys heddychlon unwaith — a’i phoblogaeth
mor gyfoethog mewn byddardod etifeddol,
nes tyfodd Byddaroliaeth yn rhan anochel,
o ddiwylliant y trigolion gwaraidd.
Blagurodd arwyddiaith-pentref arbennig, yn seiliedig
ar Hen Arwyddiaith Ceintaidd — ac yno bu gymuned
mor gynhwysol, nes bod diffyg clyw’n amherthnasol —
i fywyd cymdeithasol, gwareiddiol, delfrydol.
Dychmygwch am eiliad, pawb wrthi’n cyfathrebu’n aml-foddol —
yn glywedol a gweledol, ac yn dra chorfforol;
am ryddhaol a boddhaol? Mor brydferth, hawdd, agored,
ac esmwythaol. Y freuddwyd i ni.
Ond daeth athroniaeth newydd
— trwy addysg ryngwladol y byddar,
a chanddi arwyddiaith estron Ffrangeg.
I ysgol ar y tir mawr yr aeth trigolion yr ynys,
gan gymysgu ag eraill, o lefydd pell, a chanddynt
harwyddieithoedd cartref eu hunain;
a rhai ohonynt heb fwtadiadau’r genynnau.
Ciliodd mewnbriodi ymysg ynyswyr,
a daethant a’u cymheiriaid i mewn i’r stori.
Daeth twristiaeth yn rhan hanfodol o’r economi lleol,
ac nid oedd y swyddi mor f/Fyddar-gyfeillgar â’r hen yrfaoedd
o bysgota a ffermio. Gwasgarodd y gymuned hon
a’i diwylliant arbennig — ei hamser, ei heiliad, wedi darfod.
Daeth y gymuned i adlewyrchu un brif ffrwd y tir mawr,
a diflannu wnaeth yr arwyddiaith unigryw.
Ond mae’r chwedloniaeth yn dal i’n swyno — y sawl ohonom
sy’n byw’n naturiol mewn swigen dawel; wrth i ni straffaglu
i fod yn rhan o ddiwylliant clywedol. Ys gwn i os a gawn weld eto,
ryw dro, gymdeithas mor gyfartal â rhydd a hon?