Lle canodd melyn yr eithin unwaith
Cofiaf am haf, degawd yn ôl, pan ddes i yma’n gyntaf.
Roedd fy ngwallt dal yn winau, a fy nghorff dal yn denau,
a gwaries i ddyddiau hir, yn y caeau. Gwisgais ffrog las
a blodau gwyn arni, a’r haul yn tywynnu’n braf ar fy nghroen.
Pigais fieri, breuddwydiais, a chrwydrais, ar hyd y llwybr,
i’r goedwig, ac yn ôl. Gwrandawais ar y deryn bach melyn,
o’i chlwyd yn y gwrychyn eithin — wrthi’n chwibanu
ei gân fach ysmala — crychnodau am fara heb gaws.
Cymerais yr harddwch yma’n ganiataol,
heb ei werthfawrogi, na’i thrysori ddigon.
*
Dydy’r ffrog ddim yn ffitio, ac mae’r lliw wedi llifo,
o fy ngwallt — sy’n arian bellach. Mae’r haul dal i dywynnu,
ac mae’r eithin dal yn ffynnu — a’i arogl cneuan goco,
yn fy ffroenau. Ond yr unig felyn bellach,
yw’r blodau bach del, sy’n nythu yn y gwyrddni pigog.
Mae’r deryn bach wedi diflannu — y plaleiddiad wedi
ysu’r pryfed, bu’n wledd iddo yma unwaith.
*
Byddaf innau yma o’r hyd, am flynyddoedd maith
i ddŵad. Ffrogiau newydd, blodeuog amdanaf -
ac yn yr haul, mwyaraf, crwydraf, a gwyntiaf,
yr arogl cnau coco ar yr awel. Ond lle fu
melyn yr eithin yma unwaith, yn canu ei darogangerdd,
distawrwydd sydd yma bellach, wrth i fywyd
yn y gwrychoedd cilio, a bywyd natur syffro,
â chael ei sathru gan droed trwm galledicter,
a chwant, didostur dyn.