Un bore bach ystyriol
Yn nistawrwydd y gegin, rwy’n bwyta tôst ac yn llymeitio tê,
wrth fwynhau’r wledd o wyrddni, tu hwnt i’r drws cefn.
Creigardd tywodfaen rhedynog, dail pigog y palmwydd
yn awgrymu ynys hudolus ym mhen draw’r byd.
Polyn du’r orsaf bwydo adar, fel postyn lamp y goedwig tu hwnt i’r
wardrob. Cangen y gwrych gwyllt yn ymdroelli’n gain ar hyd
gwydr y ffenest — ei dail mawr hudol, fel rhai coeden ffa.
Fy myfyrdod ystyrlon yn fy nghludo, fy nychymyg yn crwydro,
yn ôl i gysegr atgofion melys plentyndod. Llonyddwch lleddfol,
yn donnau swynol — arhosaf yn y fan ar le yn fodlon.
Mewn fflach o lesni, daw Titw Tomos Las,
i orffwys ar y gangen gynffon las.
Pen ar un ochr, yn sbïo ar y darnau bach o wellt,
sy’n sownd yn y we pry cop ar ochr cegin y gwydr. Ei big yn
nodwyddau, tenau, miniog — yn pigo, pigo, hefo grym annisgwyl,
ond aneffeithiol. Mae’r gangen yn siglo, ac mae’n trio eto,
heb lwyddo, na challio. Eto ag eto, ac yna’n diflannu — mor sydyn
ag ymddangosai. A finnau, wrthi’n synfyfyrio, am y siom
y cafodd fy ymwelwr bach annisgwyl, doniol a ddymunol —
ac am yr ffin anweledig, rhwng fy myd tawel tu fewn i’r gwydr,
ar un gwyllt tu hwnt iddi.
Cafodd y gerdd yma ei gyhoeddi yn antholeg Gŵyl y Ferch 2020. Yr wyf eisioes wedi cyfieithu’r gerdd i’r Saesneg, gan ei alw’n ‘One mindful morning’.